Adfywiad Cymru yn Llundain: Dathlu Menywod mewn Busnes.

Ar ôl cyfnod segur, mae cymdeithas Cymru yn Llundain yn ôl diolch i gefnogaeth Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) ar Ynys Môn. Gan gydnabod bod angen ‘siop un stop’ ar gyfer y gymuned o Gymry sydd ar wasgar yn Llundain, mae’r gymdeithas wedi cael ei hailfrandio’n llwyr.

Digwyddiad cyntaf y gymdeithas yw’r achlysur Dathlu Sylfaenwyr Benywaidd, sy’n canolbwyntio ar fenywod rhyfeddol ym myd busnes. Fyddai’r gwaith o adfywio Cymru yn Llundain ddim wedi bod yn bosibl heb gyfraniad y menywod, felly mae’n ddathliad perthnasol ar gyfer lansio’r ailfrandio.

Cynhelir y digwyddiad ar 6ed o Fehefin yn The Shard rhwng 6pm ac 8:30pm.

Ymhlith siaradwyr gwadd y digwyddiad mae:
Catrin Owen- Cyd-sylfaenydd stiwdio dylunio Tropic.
Nan Williams- Prif Weithredwr Grŵp Four Communications Agency a Chadeirydd Global Welsh
Women Angels of Wales- Banc Datblygu Cymru.
Y Farwnes Carmen Smith o Lanfaes.

Mae stiwdio dylunio Tropic wedi bod yn hollbwysig o ran arwain y gwaith o ailfrandio Cymru yn Llundain. Dywedodd Catrin Owen:

“Rydyn ni’n gyffrous (ac yn falch iawn) o weithio mewn partneriaeth â chymdeithas Cymru yn Llundain i ddarparu hunaniaeth brand newydd sbon a phresenoldeb digidol. Mae’r cyfleoedd i Gymry yn Llundain a thu hwnt yn enfawr ac mae’n wych cael chwarae rôl fach i’w cefnogi ar eu taith. Bydd y digwyddiad lansio ar y 6ed o Fehefin yn gyfle i dathlu!”

Catrin Owen, Cyd-Sylfaenydd Tropic Design

Bydd presenoldeb Y Farwnes Carmen Smith, yr aelod ieuengaf erioed i gael ei phenodi i Dŷ’r Arglwyddi, yn rhan bwysig o’r noson. Mae taith Carmen, sy’n frodorol o Ynys Môn, yn personoli ei natur benderfynol a’i llwyddiant, gan ei gwneud yn ffynonnell o ysbrydoliaeth i arweinwyr uchelgeisiol.

Dywedodd y Farwnes Carmen Smith:

“Rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu’r menywod gwych o Gymru sydd ar flaen y gad yn eu diwydiannau. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydnabod eu gwaith ardderchog er mwyn i ni allu ysbrydoli menywod ifanc eraill i ddilyn eu hôl-troed. Mae’n fraint gallu siarad yn nigwyddiad ail-lansio Cymru yn Llundain”.

Y Farwnes Carmen Smith o Lanfaes

Mae’r digwyddiad Dathlu Sylfaenwyr Benywaidd yn fan cychwyn da ar gyfer pennod newydd cymdeithas Cymru yn Llundain.

Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer y digwyddiad: https://WILFounders.eventbrite.co.uk

6ed o Fehefin, 2024.
6pm-8:30pm
23ain llawr The Shard, Llundain.

Erthyglau cysylltiedig

Subscribe to our newsletter for all the latest news and events

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed am yr holl ddigwyddiadau a'r newyddion diweddaraf