Busnesau Cymru

Cefnogi busnesau yng Nghymru

Mae llawer o resymau pam bod cynnal busnes yng Nghymru yn rhoi mantais benodol i chi – o sgiliau i bartneriaethau strategol, a dull o gefnogi wedi’i deilwra.
Wales in London logomark navy

Caiff Cymru ei gwasanaethu gan ei 8 prifysgol

Wales in London logomark navy

Mae 1.2m o bobl wedi'u cyflogi gan tua 248,000 o fusnesau yng Nghymru

Wales in London logomark navy

Mae gan Gymru 28% o fusnesau sy'n eiddo i fenywod, fymryn yn llai na chyfartaledd y DU

Wales in London logomark navy

Mae busnesau Cymru yn canolbwyntio ar ystod eang o ddiwydiannau

Buddsoddi yng Nghymru

Buddsoddi yng Nghymru

Gallwch gyfrannu at yr economi leol a gwneud gwahaniaeth iddi drwy gefnogi mentrau arloesol drwy fuddsoddi.

Gallwch hefyd ddechrau mentora a chefnogi cwmni newydd, a all yn ei dro ddaparu cysylltiadau a chydberthnasau a all bara am flynyddoedd, ac arwain at fanteision annisgwyl yn y dyfodol.

Un rhwydwaith angel sy’n cefnogi busnesau yng Nghymru yw M-SParc. Cliciwch y botwm isod i gael rhagor o wybodaeth.

Straeon Llwyddiant

Swyddi a chyfleoedd yng Nghymru

Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i gyfleoedd yng Nghymru

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i bobl sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru.

Darogan Talent

Hyb Graddedigion Cymru, yr unig lwyfan penodol ar gyfer gyrfaoedd i raddedigion yng Nghymru.

M-SParc

Agorodd MSParc yn swyddogol yn 2018 fel Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, ac mae’n gartref i arlosedd a chyffro yng ngogledd Cymru.

Odgers Berndtson

Odgers Berndtson yw’r unig gwmni chwilio o’r radd flaenaf sydd â thîm penodol yng Nghymru a’r adnoddau i gyflawni chwiliadau cyflawn yn Gymraeg.

Beth sy’n eich atal rhag dychwelyd i Gymru i newid gyrfa, symud tŷ neu ddechrau menter newydd? Dyma eich cyfle i fynd amdani – mae cyfleoedd a chymorth ar gael i chi! Beth am ddychwelyd adref?

Gwyddom fod prinder arian i gefnogi busnesau bach a newydd yn yr ardal, prinder sgiliau’n lleol mewn meysydd penodol, prinder siaradwyr Cymraeg yn y sector yn yr ardal a’r ffaith nad yw pobl sydd wedi symud o’r ardal yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael yma. Ein bwriad ni yw newid hynny!

Wales in London logomark green Wales in London logomark yellow Wales in London logomark lilac

"Mae Cymru yn Llundain yn fan cyfarfod i bobl sy'n gwerthfawrogi eu cysylltiadau â Chymru. Rydyn ni'n gymuned, ac yn awyddus i gynrychioli'r pethau gorau sydd gan Lundain i'w cynnig i Gymry'r ddinas."

Peter Evans

Llywydd

Subscribe to our newsletter for all the latest news and events

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed am yr holl ddigwyddiadau a'r newyddion diweddaraf