Bydd 5ed Gynhadledd Egni flynyddol M-SParc yn mynd i’r afael eleni â’r polisïau allweddol sy’n effeithio ar daith y wlad tuag at sero net. Ddydd Mawrth, 21ain Mai, bydd Egni 2024 yn ymgyrchu dros newid, gan herio’r sawl sy’n gyfrifol am lunio polisïau a gwneud penderfyniadau i gyflymu cynnydd tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Mae 2024 yn flwyddyn allweddol os ydyn ni’n mynd i roi terfyn ar effaith newid hinsawdd. Po fwyaf o amser sy’n mynd heibio, y mwyaf real yw’r argyfwng hinsawdd, ac mae’n rhaid i ni gymryd camau gweithredu dybryd y dylid bod wedi’u cymryd ddoe. Rydyn ni’n wynebu sefyllfa o ganlyniadau di-droi’n-ôl ac mae’n rhaid gweithredu. Mae cynhadledd Egni’n addo amrywiaeth eang o leisiau, gyda phob un yn cyfrannu at y drafodaeth ar newid hinsawdd, ac yn canolbwyntio ar atebolrwydd.
Dr Debbie Jones, y Rheolwr Arloesi Carbon Isel yn M-SParc sy’n arwain y gynhadledd eleni, a dywedodd
“Rydyn ni’n gyffrous i arwain y drafodaeth ynghylch newid hinsawdd eto eleni mewn blywyddyn bwysig iawn o safbwynt gwleidyddol. Mae’n bwnc na ddylem ni byth osgoi ei drafod. Rydyn ni’n eirioli dros ddyfodol mwy gwyrdd, yn ystod 2024, y flwyddyn boethaf ar gofnod yn ôl y rhagolygon. Gydag etholiad cyffredinol ar droed, mae llawer yn y fantol ac mae gwleidyddion yn dibynnu’n fawr ar yr agenda ddydd Mawrth.”
Dr Debbie Jones
Yn y digwyddiad eleni, bydd y sylw i gyd ar y prif bleidiau gwleidyddol gan fod eu polisïau’n cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith y gall busnesau bach a chanolig ei wneud a gallant gyflymu – neu arafu – cynnydd tuag at Sero Net yn sylweddol. Gallwch ddisgwyl clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru, wrth iddyn nhw rannu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.
Ystyr Sero Net yw sefyllfa lle mae cydbwysedd rhwng yr allyriadau carbon deuocsid a gaiff eu creu o ganlyniad i weithgareddau pobl a’r gwaith o ddileu’r nwyon hyn o’n hamgylchedd. Y cyfanswm ‘net’ o ran carbon deuocsid yw sero.
Ychwanegodd Debbie
“Mae gennym ni agenda wych ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at herio ein harweinwyr, a gwrando ar arbenigwyr, i weld beth gall bob un ohonom ei wneud i gryfhau ein camau gweithredu wrth i ni anelu at Sero Net.”
Dr Debbie Jones
Bydd y gynhadledd wir yn meithrin sgwrs ystyrlon ac yn sbarduno newid go iawn. Bydd cyfle i’r sawl sy’n bresennol gymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, gan ddysgu mwy am gynllun Cymru yn y dyfodol ar gyfer y dirwedd ynni. Ymhlith y cwmnïau fydd yn arddangos eu gwaith ac yn trafod beth all eu rhwystro ar eu taith carbon isel mae Cymdeithas Tai Adra, Uchelgais Gogledd Cymru, Ynni Cymru, Great British Nuclear ac Ystad y Goron. Mae pob un yn cyfrannu at nod Cymru o gyrraedd Sero Net erbyn 2050. Bydd M-SParc yn cyflwyno gan fod yn agored am eu nod o gyrraedd Sero Net erbyn 2050, a’r heriau a ddaw yn sgil hyn.
Mewn byd lle mae cymaint yn y fantol, mae Cynhadledd Egni Flynyddol M-SParc yn arwydd o obaith ac yn gatalydd ar gyfer gweithredu. Ymunwch â ni wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol a pharatoi ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae tocynnau ar gael yn https://egni2024.eventbrite.co.uk