Ein tîm

Peter

Peter Evans

Cadeirydd

Huw Hampson-Jones

Aelod Bwrdd

Bleddyn Phillips

Aelod Bwrdd

Dr Carol Bell - Board member

Dr Carol Bell

Aelod Bwrdd

Eisiau ymuno â'n tîm?

Gwirfoddolwyr ydyn ni i gyd sy’n awyddus i bontio Cymru a Llundain. Cysylltwch â ni os hoffech ymuno â ni.

Wales in London logomark green Wales in London logomark yellow Wales in London logomark lilac

"A minnau wedi byw y tu allan i Gymru, rydw i'n gwerthfawrogi bod angen lle ar unigolion i fynegi eu hunaniaeth Gymreig."

Llio Roberts

Arweinydd Prosiect

Peter Evans

Cadeirydd

Graddiodd Peter Evans o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion gyda BSc mewn Gwyddorau Rheoli. Ymunodd â Standard Chartered Bank ac ailgartrefu yn Bahrain, Abu Dhabi a Dubai cyn caffael ac ymuno â chwmni chwilio gweithredol yn Llundain sy’n arbenigo yn y sector gwasanaethau ariannol. Yn 1999, gwerthodd ei gwmni i TMP (monster.com) a chymhwyso fel hyfforddwr gweithredol o INSEAD. Mae Peter wedi hyfforddi uwch swyddogion gweithredol a thimau mewn rhai o’r sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae hefyd wedi gweithredu fel Prif Swyddog Gweithredol, Sylfaenydd a Chadeirydd mewn amrywiaeth o fusnesau newydd, partneriaethau a busnesau rhestredig. Ymunodd Peter â bwrdd Cymru yn Llundain yn 2017 ac mae wedi bod yn Gadeirydd ers 2019.

Huw Hampson-Jones

Aelod Bwrdd

Graddiodd Huw Hampson- Jones mewn Damcaniaeth Wleidyddol a Llywodraeth o Brifysgol Cymru, Abertawe. Dechreuodd ei yrfa gyda’r Unilever Group ac yna ymunodd â Philips Industries a Harris Corporation yn UDA cyn symud yn ôl i Ewrop gyda McDonnell Douglas a Siemens. Ar ôl gweithio i Siemens am 10 mlynedd, symudodd Huw i weithio yn Sweden lle arbenigodd mewn datblygu cwmnïau uwch-dechnoleg ar gyfer cyfalafwyr menter Ewropeaidd. Yn 2010, ymunodd Huw ag OXIS Energy yn Rhydychen lle daeth yn Brif Swyddog Gweithredol. Yn 2021, sylfaenodd Huw y cwmni Belgaidd SOLiTHOR sy’n datblygu technoleg celloedd lithium cyflwr solet ar gyfer marchnadoedd electrosymudedd y byd. Ymunodd Huw â’r bwrdd fel Cadeirydd Cymru yn Llundain yn 2013.

Bleddyn Phillips

Aelod Bwrdd

Cyfreithiwr yw Bleddyn Phillips yn ôl ei alwedigaeth, cyn gyfarwyddwr masnachol yng nghwmnïau olew BP a Total, ac yna’n Bennaeth Byd-eang arferion Olew a Nwy yn y cwmni cyfreithwyr rhyngwladol, Clifford Chance LLP. Ef yw Cyfarwyddwr Clwb Rygbi’r Scarlets, Llanelli ac roedd yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru rhwng 2012 a 2018. Yn 2019, cafodd ei benodi’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe.

Ymunodd Bleddyn â bwrdd Cymru yn Llundain yn 2016.

Dr Carol Bell

Aelod Bwrdd

Mae Dr Carol Bell yn ddiwydiannwr ac yn gyllidwr profiadol. Mae ganddi MA mewn Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt, BA mewn Gwyddorau’r Ddaear o’r Brifysgol Agored ac MA a PhD o’r Sefydliad Archaeoleg, UCL.

Dechreuodd gyrfa Dr Bell yn y diwydiant olew a nwy ac yna symudodd i’r maes bancio lle gweithiodd mewn swyddi uwch yn UBS, Credit Suisse First Boston, JP Morgan a Chase Manhattan Bank.

Ers 2000, mae Dr Bell wedi dal nifer o swyddi anweithredol ac mae’n un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Tharisa plc, Bonheur ASA a BlackRock Energy and Resources Investment Trust. Mae’n un o sylfaenwyr-gyfarwyddwyr Chapter Zero, rhwydwaith i gefnogi Cyfarwyddwyr Anweithredol i ymgysylltu â materion newid hinsawdd, a hi yw’r fenyw gyntaf i wasanaethu ar fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae Dr Bell yn darlledu’n aml yn Gymraeg ar faterion sy’n ymwneud â busnes ac mae wedi eistedd ar Awdurdod S4C, corff llywodraethu’r Sianel Deledu Gymraeg. Mae Carol wedi bod yn aelod o fwrdd Cymru yn Llundain ers 2011.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed am yr holl ddigwyddiadau a'r newyddion diweddaraf